Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

30 August 2004

w.bloggar, unrhywun?

21:30 0 sylw

Dw i'n mynd i ddechrau defnyddio w.bloggar, rhaglen sy'n gadael i chi gael mwy o rheolaeth dros fel mae eich blog yn edrych, ac sy'n postio eich post i'r blog heb trafferth, gret!

Dim fod unrhywbeth yn bod gyda blogger fel y mae.

Ffilm mewn 10 eiliad? $3600000 yr awr? Sounds like a challenj...

10:14 0 sylw

It's a personal chalenj for me, a personal chalenj for my cwracl, and also a personal chalenj, for me! (I calon Barry Welsh!)

10 sec. film fest - cystadleuaeth sy'n cael ei rhedeg gan gwmni sy'n gwneud content ar gyfer ffonau symudol - y challenj yw i creu ffilm sydd yn 10 eiliad o hyd...syml. Mae yna rhai cracking yna'n barod.

A'r gwobr? $10,000 - not bad, eh?

29 August 2004

Audioscrobbler

23:50 0 sylw

Dwi wedi ffeindio, ymuno, (dechrau) defnyddio, a sefydlu grwp ar y gwefan yma.

Yn syml, mae'r gwefan yn gymuned sy'n rhannu gwybodaeth am gerddoriaeth, ac yna trwy rhannu'r gwybodaeth yma, yn gwneud proffeil o'r blas cerddorol, ac yn rhoi awgrymiadau i chi! gwd yfe.

Allech chi weld fy mhroffeil i drwy glicio ar y linc yma. Os ymunwch chi, wnewch fi'n ffrind ac ymunwch รข'r grwp :)

Y Rhithfro

22:35 1 sylw

Dwi wedi sylwi fod rhestr rhithfro nic dafis (of morfablog and maes-e fame) yn tyfu a thyfu, ac hefyd wedi sylwi fod nic yn dechrau laru ar diweddaru'r sgript.

Mae gen i syniad o adeiladu bas-data o wybodaeth am blogiau'r rhithfro, ac yna creu nifer o opsiynau fel estyniad mwy hyblyg o sgript nic. Y syniad yw fydd gan aelodau'r rhithfro cyfrif eu hunain y bydden nhw'n gallu newid eu hunain, fydd yn cymeryd llawer o'r baich oddi ar nic ei hunain. Mi allai'r sgript gael ei wneud i rhoi:

  • mwy o rheolaeth dros fformat y dolenni ar y gwefan
  • opsiwn i aelodau osgoi rhoi eu cyfeiriad eu hunain yn y rhithfro
  • dewis derbyn ystadegau syml ar eu boblogrwydd yn y rhithfro
  • dewis i'r sgript printio 'mond y blogiau sydd wedi'i diweddaru'n ddiweddar
  • dangos y blogiau mewn trefn gwahanol (y wyddor, mwyaf diweddar, mwyaf poblogaidd ayyb.)

'Se ni'n credu fydd hyn yn rhoi hwb i'r blogwyr mas yna, ond cyn i fi fynd ati, dw i ishe feedback os gwelwch yn dda... eich barn chi sy'n bwysig mewn gwirionedd... gadewch sylw. Diolch


Beth yw'r dyddiad?

22:09 1 sylw

Chi'n gweld y dyddiad? OMG! Ma fe'n gymraeg! Sut yn y byd wnes i hwna ar gyfer blogger?

Gofyn yn neis neis iddyn nhw?
Na.

Ysgrifennu nhw mewn ar ben dy hunain?
Na.

Sut te?
Drwy defnyddio javascript. Dw i wedi neud sgript bach sy'n derbyn y dyddiad mae blogger yn ei ysgrifennu, ac yn ei rhannu i'r dydd, mis a'r blwyddyn, ac yna eu ysgrifennu nhw mas unwaith eto yn y gymraeg. WOW! nuclear ffisics!

Os ych chi moin cael y sgript neu gweld fel ma fe'n gweithio, defnyddiwch eich porwr i weld y source.

Sa i'n gweld dim ond rhife? Pa shit yt ti'n siarad?
Wel yn amlwg dyw javascript ddim arno gyda ti. twt twt. Wel, ti sy'n colli allan.

Croeso!

22:00 1 sylw

Croeso i sbwriel*spot, blog arall di-siap a di-werth i'r rhithfro. Serch hynny, dw i yn credu taw'r mwyaf o crap cymraeg sydd ar y we, gore i gyd. Mae'r blog yma 'mond yn blog dros dro tan i mi sortio allan sustem blogio fy hunain i fy gwefan fy hunain.