Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

30 November 2004

Gwnewch Cariad nid sbam

13:35 0 sylw

Mae Lycos wedi creu arbediwr sgrin sy'n syrffio'r we i wefanau sbamwyr ac yn rhoi eu bil am y bandwidth yn aruthrol o fawr, gyda'r gobaith yn eu tro fydd yn cau'r gwefanau i lawr ac yn stopio sbam. Hwre!!

http://www.makelovenotspam.com/intl

27 November 2004

y rhithfro

21:02 0 sylw

Dyma sgript fydd yn helpu chi i'ch dewisiadau ar gyfer sgript y rhithfro. Mae'r sgript yma yn rhoi'r côd i chi copio mewn i'ch patrymlun neu tudalenau. Dilynwch y cyfarwyddiadau ac ni ewch i drafferth. Os nad ydych yn eu dilyn, ni fydd y sgript yn gweithio ar eich gwefan/blog chi. Unrhyw trafferth neu adborth, gadewch sylw.

Ar ol i chi gael y sgript, copiwch e a'i rhoi rhywle ar eich gwefan/blog.

24 November 2004

Sgript hap(us) y Rhithfro

21:13 6 sylw

Reit, dwi wedi mynd ati i newid ychydig ar sgript rhithfro nic, ac wedi adio cwpl o opsiynau iddo. Fel allech chi weld ar y dde, mae'r rhestr wedi mynd, ac wedi cael ei swapo gyda fy sgript i, sydd 'mond yn rhestri un ar y tro, ond un ar hap bob tro.

Beth ma fe'n neud?
Rhoi opsiynau - allech chi ddewis unai i rhoi e ddangos blog ar hap, neu y blog nesaf yn y rhestr (sydd fel mae'n digwydd wedi'i sortio yn nhrefn y wyddor), allech chi ddewis peidio dangos eich blog chi eich hunain, newid yr hyn sydd fel arfer yn y seren, a hefyd rhoi'r opsiwn i chi adio dolen i ymwelwyr adio'r blog i'w rhestr bloglines.

Pam?
Pam lai? Bach o hwyl, a newid ffresh i'r ymwelwyr bob tudalen yn lle cael ei bombardio gyda lot o dolenni i flogiau gwahanol.

Mae e i weld yn gymhleth, rhywbeth allai ddim gwneud!
Ar hyn o bryd allai weld hynny, ond dwi'n bodlon ysgrifennu fel manual bach i gyd-fynd gyda fe, ond dim ond os oes digon o bobl eisiau i mi wneud....felly gadewch sylw os ydych!

Diolch

22 November 2004

him name is hopkin green frog

23:40 0 sylw

lost frog

(person 16 mlwydd oed sy'n dioddef o autism. Mae'r toy yn un McDonalds yn America, ac mae lot o bobl wedi bod yn ysgrifennu amdano.)

Camera Digidol

19:30 1 sylw

Dwi eisiau prynnu camera digidol er mwyn tynnu lluniau lyfli i flogio amdano....yn unig broblem yw, dwi ddim yn lico cario bric o gwmpas gyda fi ym mhobman.

Mae gen i un opsiwn, sef yr un yma: Key 019 gan Phillips (llun)

Ond dwi ishe un gyda bach mwy o resolution arno.

Unrhyw syniadau?

18 November 2004

Cyfalafiaeth i guro newyn

20:10 0 sylw

Mae'r hunger site wedi bod yn mynd ers blynydde, ond mae'r achos mor gryf ag erioed. Gwefan sy'n defnyddio hysbysebion i gael arian i rhoi i bobl yn y trydydd bydd. Mae pob clic yn rhoi 1.1 cwpan o fwyd, ac mae 100% o'r arian yn mynd at achosion sy'n helpu curo newyn.

rhowch glec yma i rhoi - smo fe'n costio dim!

17 November 2004

Y sgript yn cael sylw

20:42 1 sylw

Mae'r sgript dyddiadau wedi cael mwy o sylw, a dw i newydd sylwi!

Diolch i nic am gofnodi hyn yma, mae Luistxo Fernandez wedi ysgrifennu amdano ar ei safwe e. Dw i'n deall ei bwynt e, ond dyw beth mae e'n awgrymmu ddim yn bosib ar blogspot fel dw i'n deall, a'r pwrpas mae'r sgript yma yw i rhoi'r cyfle i ni'r cymry cymraeg ddefnyddio geiriau (dydd llun, mawrth, mercher etc.) a'r misoedd fel geiriau ar y blog. Mae'r hyn mae e'n awgrymu ddim yn galluogi nhw i neud hwn sain credu.

Ond iei! all the same

Mae'r canlynol yn hysbyseb!

20:18 0 sylw

Merched! Ydych chi'n cysgu'n unig? hoffech fraich dros eich ysgwydd? wel dyma'r ateb! "The Boyfriends Arm"!

A Bechgyn! Ydych chi ishe lap eich hunain? Dyma i chi y "Lap Pillow"! peidiwch ag edrych yn y lle anghywir neu deiff y Boyfriends Arm i rhoi slap i chi!

Ma japan wir yn wlad llawn syndod!

Mae George W. Bush yn...

19:26 0 sylw

Newydd ffeindio allan am googlism, a dw i'n hapus i ddweud fod George W. Bush*...

- yn "holy shit"
- ddim yn wahanol
- yn droseddwr dylse cael ei ddal yn syth
- yn unben
- yn mwnci1
- ddim fy arlywydd
- yn bendant ddim Bill Clinton
- yn arlywydd anghyfreithlon

Mae'n wych pa mor braini yw google.


* Yr hyn wedodd googlism am 7:25pm ar 17/11/04
1 Ma fe wir yn fwnci!