Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

23 March 2005

Dysgu PHP

16:34 0 sylw

Dwi di penderfynnu dysgu PHP i wneud rhaglenni i'r we. Ar ol edrych ar y features sydd gyda'r iaith dros ASP, dylse ni fod 'di neud e lot yn gynt.

Mae'n debyg i JScript a JavaScript o ran syntax, ac mae'n agor y farchnad i mi o ran dewis o weinyddion. Ond, y plus mwyaf yw'r cannoedd (os nad miloedd) o fodiwlau sy'n eich galluogi i wneud lot, lot, lot mwy.

Dwi'n edrych ymlaen i ddefnyddio mod_rewrite(), modiwlau lluniau a cron (ar gyfer rhithfro.com, yn y dyfodol pell).

Wel, bant a fi i ddysgu.

21 March 2005

ypdet bach ar y rhithfro

22:51 0 sylw

Dwi'n cael problemau strwythyro rhithfro.com, wel, dim rili, ond mae'r ardal i aelodau'n llawer galetach i weithio allan nag rown i'n meddwl. On i heb feddwl (tan heddiw) fod gan pobl mwy nag un blog, ac felly ni fydden nhw ishe gorfod cael 2 cyfrif. Pethe twp.

Ta beth, dwi'n gobeithio cael fersiwn syml iawn iawn i fyny erbyn diwedd yr wythnos os nag oes unrhyw mwy o broblemau'n codi. Yn y fersiwn yma dwi'n gobeithio fydd hi'n bosib.

1. Rhestri pob blog sy'n aelodau, gyda ychydig o wybodaeth amdan pob un (enw, dolen, disgrifiad, pryd cafodd y blog eu diweddaru diwethaf)

2. Galluogi blogwyr i greu rhestr y rhithfro eu hunain, fydd yn storio eu penderfyniadau mewn bas-data, ac fydd wedyn yn eu galluogi i rhoi'r rhestr ar eu blog yn hawdd iawn fel un presennol y rhithfro.

Ymhen rhyw bythefnos i'r wefan syml fod i fyny, dwi'n gobeithio adio ystadegau i'r wefan - hynny yw, ystadegau o'r nifer o bobl sydd wedi bod yn clicio ar blogiau trwy'r rhestr. Efallai nai aros tan mae'r rhestr yn digon poblogaidd.

God knows pan fydd y gwefan wedi cwpla ar y rat hyn, ond ma rhywbeth yn well na dim sbo.

Nol!

20:55 0 sylw

Dwi nol nawr ar ol dros mis o saib... a rhaid dechrau gyda'r GRAND SLAM!!!!

Dwi methu credu ein bod ni wedi ei ennill o'r diwedd - on in becso braidd na fyddai byth yn cael gweld un. Ond, er dwi'n ffan masif o rygbi ac yn genedlaetholgar iawn, dwi ddim yn credu eu fod yn haeddu parade open bus.

O ie, chi'n lico'r template newydd? cwpl o orie nath e gymeryd i fi - dwi'n itha impressed fy hun - tywyll nagyw e. rhy dywyll?