Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

25 April 2005

Wedi dysgu fy ngwers

20:46 0 sylw

Dwi wedi dysgu fy ngwers...

Am ychydig ddiwrnodau dwi'n amau fod Blogger wedi banio'r blog am nad oeddwn wedi rhoi'r bar ar y top - digon teg. Dwi wedi'i rhoi yn ol nawr a dwi'n falch i weld fod y blog yn ol.

Iei!

15 April 2005

Pwy dylen i bleidleisio am?

13:05 0 sylw

Wel, mae e i weld fel mae pawb yn neud hyn nawr - a ma fe i weld fel ma pawb i voto'r un ffordd (ydy whoshouldyouvotefor yn cael ei funding yn gyfrinachol o'r lib dems???)


Who Should You Vote For?

Labour -14
Conservative -72

Liberal Democrat 91
UK Independence Party -19

Green 56


You should vote: Liberal Democrat

The LibDems take a strong stand against tax cuts and a strong one in favour of public services: they would make long-term residential care for the elderly free across the UK, and scrap university tuition fees. They are in favour of a ban on smoking in public places, but would relax laws on cannabis. They propose to change vehicle taxation to be based on usage rather than ownership.

13 April 2005

Cyffyrdda fi

01:13 0 sylw

Cystadleuaeth bach diddorol wedi'i wneud i plugo nintendoDS dwi'n credu.

Sdim mannequin hand gyda fi though...bugger.

12 April 2005

Bollocks!

23:25 0 sylw

Wedi gorffen yr holl waith odd da fi i wneud am sbel, a nol yn Aber gyda amser ar fy dwylo. Felly, dyma fi'n mynd ati i gario ymlaen gyda'r hyn wnes i am rhithfro.com, a dyma fi methu ffeindio'r ffeiliau.

Shit. On i'n meddwl fod fi wedi'i dileu nhw neu rhywbeth, ac yn mynd i dechrau o'r dechrau. Dyma fi'n cofio yna fod nhw ar y cyfrifiadur arall sydd o hyd yng Nghaerdydd.

Phew. Yn anffodus ar y llaw arall, mae hyn yn golygu fod rhithfro.com wedi'i haltio am sbelen fach arall (o leia, tan fod fi'n gallu cael y ffeiliau).

Fi'n pissed off gyda'n hunain nawr, a dwi'n siwr fod unrhywyn arall sydd allan yna nawr ac eisiau rhithfro.com cael ei orffen hefyd yn pissed off da fi. Sori :(

Sai'n rhoi addewid y tro 'ma, felly gobeithio fyddai ddim wedi jinxo fe'n rhagor.

05 April 2005

Oedi'r rhithfro

13:37 1 sylw

Dwi'n gwybod, dwi'n gwybod - a dwi yn flin.

Dwi wedi bod yn addo creu rhithfro.com ers sbel, ond dwi wedi sylweddoli nad yw'n cymeryd siap rhyw lawer - dwi'n beio fy mhen.

Sa i'n gallu penderfynnu cweit ar fel ma fe i fod i cael ei adeiladu - beth dylai fynd arno fe ar y dechrau, pa mor syml ddyle ni neud e neu dyle fe fod yn sustem llawn ar hyn o bryd. Does dim esgus mewn gwirionedd, ond dwi wedi gwneud un penderfyniad pendant - ma rhywbeth yn mynd i fod yna o fewn wythnos fydd yn galluogi'r defnyddwyr rhoi rhestr newydd ar eu blogiau.

Dwi di gor-gymhlethu pethe, ond dim mwy!

<watchthisspace />