Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

29 June 2005

Un (ffantastic) am yr haf

20:19 0 sylw

Gethon ni band-llydan 1MB yn ddiweddar, ac achos y cynydd yn y cyflymder, dwi rili wedi joio lawrlwytho ffilmiau bach... ac heddi ma fe di helpu fi dod i hyd i band newydd dwi'n lico.

On i'n darllen coolhunting heddi a weles i pwt bach am ok go. Beth nath wir denu fy sylw oedd y ffaith fod fideo ar gael i'w lawrlwytho ohonon nhw yn dawnsio i'w sengl "A million ways". Ma fe'n briliant yn fy marn i - syml ond eto'n amlwg yn lot o waith. Fanhyn i'w weld.

Mae'r sengl yn werth eu clywed hefyd - ac fel y dywedodd Josh Rubin, "A little bit indie, a little bit pop, the single has the makings of a summer anthem"... mae'n iawn.

Unrhywun di clywed amdanyn nhw?

okgo  |  coolhunting

16 June 2005

Retro DJ!!

12:21 1 sylw


Mae'r boi ma wedi adeiladu Desg Cymysgu eu hunain ar gyfer tapau cassette - Amazing! Dyw ei saesneg e ddim yn ffantastic ar eu wefan, ond ma hwna'n un peth dwlen ni cael fy nwylo arno, neu o leia cael instructions am sut i neud un dy hun!

Ewch ar ei wefan yma (mae'n cymryd ages i lwytho)

12 June 2005

Cinio dydd Sul // Sunday dinner

14:44 0 sylw


Wedi cyrraedd nol i Gaerdydd ac yn cael cinio dydd Sul am y tro cynta ers pasg. Smo fe i weld fel lot, ond odd e'n stunning... Cig oen (cymraeg), carrots, tato newy' a tato wedi'i ffrio, a grefi.... yummm!

09 June 2005

atgyfodiad....cyn hir...

01:12 0 sylw

Ma 4 prosiect da fi ar y gweill nawr dros yr haf, yn ogystal a ceisio gweithio i gael gwared yr overdraft. Unwaith ma hwna di gorffen, bydd sbwriel*spot yn ol ar ei newydd a gwell wedd... ac mi fydd rhithfro.com wedi'i orffen.

Dyna yw'r gobaith, ond pwy a wyr... sain dda am gadw at fy ngair yn ddiweddar.