Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

29 August 2004

Beth yw'r dyddiad?

22:09 1 sylw

Chi'n gweld y dyddiad? OMG! Ma fe'n gymraeg! Sut yn y byd wnes i hwna ar gyfer blogger?

Gofyn yn neis neis iddyn nhw?
Na.

Ysgrifennu nhw mewn ar ben dy hunain?
Na.

Sut te?
Drwy defnyddio javascript. Dw i wedi neud sgript bach sy'n derbyn y dyddiad mae blogger yn ei ysgrifennu, ac yn ei rhannu i'r dydd, mis a'r blwyddyn, ac yna eu ysgrifennu nhw mas unwaith eto yn y gymraeg. WOW! nuclear ffisics!

Os ych chi moin cael y sgript neu gweld fel ma fe'n gweithio, defnyddiwch eich porwr i weld y source.

Sa i'n gweld dim ond rhife? Pa shit yt ti'n siarad?
Wel yn amlwg dyw javascript ddim arno gyda ti. twt twt. Wel, ti sy'n colli allan.

1 sylw

Blogger Nic
Bobdigedig! Wyt ti'n hapus i bobl eraill defnyddio'r sgript?

Adia sylw