Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

09 September 2005

y blog mwyaf poblogaidd

15:44 3 sylw

Dwi di ychwanegu teclyn tracio i rhestr y rhithfro, a braf yw cael dweud ei fod yn gweithio'n iawn ac yn cyfri 'r nifer o bobl sy'n ymweld a blogiau sydd ar y rhestr wrth glicio ar dolenni sydd ar y rhestr (llond ceg!)

Mae pob blog sydd ar y rhestr wedi cael un ymweliad o leiaf, a'r blog mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw Bachgen o Bontllanfraith.

Cyn hir dwi'n bwriadu rhoi'r rhestr o'r blogiau ar hafanddalen y rhithfro mewn ffordd fydd yn dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw. Ni fydd yr union ffigyrau'n cael ei arddangos er mwyn arbed embaras (!) i'r blogiau amhoblogaidd (sbwriel*spot included!).

Hefyd falle fyddai'n defnyddio technoleg AJAX er mwyn dangos pryd diweddarwyd y blogiau diwethaf. Long-term plan yw hwn achos bydd rhaid i fi ddysgu mwy amdano gynta. Dweud y gwir mae e i weld yn eitha straight-forward, ond bydd seto fe lan ar gyfer a) y rhestr; b) ffrwd atom c) porwyr gwahanol, yn neud e'n anoddach..... challenge!

05 September 2005

Comedi

23:47 1 sylw

wow... ma'r blogio ma'n dechrau troi'n obsesiwn.

Dwi'n dwli ar comedi, ac yn gwrando iddo'n aml tra'n gweithio ar y cyfrifiadur... yn anffodus, sai'n gwybod am lawer o lefydd lle allai wrando arno... y lle gorau cyn belled yw radio4 a radio7 (trafodaeth diddorol ar adegau am gomedi os nad yn creu chwerthin), ac hefyd yn gwrando ar yahoo! launchcast, last.fm, a shoutcast, ond i gyd dwi'n clywed yw comedi crap gan pobl duon sy'n rhegi ac yn credu fod siarad am rhyw yn mynd i gael laffs yn awtomatig... na!

Incidently, ar ol i mi gofnodi am Jeff Foxworthy ychydig fisoedd yn ol, darllenais ei biograffi ar yahoo!, a ffeindio allan fod gan y boi yma'r albwm gomedi mwyaf llwyddiannus erioed ("You might be a redneck if..."), yn gwerthu dros 4,000,000 copi. waw.

Ma angen i fi ffeindio mwy o ffynonellau comedi... unrhywun?

Cyfrinach

23:39 0 sylw

Tra fy mod i ar ganol frenzi bach anarferol o flogio, meddwl wnai gofnodi am wefan ffeindiais i ychydig fisoedd yn ol, postsecret (sylweddoli fod gasyth wedi cofnodi'r wefan yma hefyd).

Dwi'n dwli ar gelf od-gyda-phwrpas, hynny yw, dim post-modern/modern art crap lle allen ni gachu ar pen a ennill gwobr, dim celf gan tossers ffroen-uchel sy'n meddwl gormod am pethau diwerth. Dwi'n dwli ar gelf syml sydd yn adrodd stori personol. Dyna beth mae postsecret yn neud.

Bril.

datblygiadau rhestr y rhithfro

22:39 2 sylw

Reit, nawr fod rhithfro.com lan ac yn colli eu pryfed (bugs?) yn araf, meddwl nodi syniad wnaeth dod i mi ar ol i nwdls son am teclyn diweddarwyd ar cofnod cynt. Sain cweit yn siwr beth odd e'n meddwl wrth hwna, ond yn y dyfodol, pan fod mwy o flogiau wedi ymaelodi i'r rhithfro (a ddim yn blogio'n aml), dwi'n bwriadu adio unai:

  1. tudalen adrodd (fel maes-e) i bobl ddweud os nad oes blog wedi'i ddiweddaru'n ddiweddar, neu
  2. creu tudalen admin fydd yn checko ffrydau (plural ffrwd?) aelodau'r rhestr ac yn cymharu dyddiad eu cofnod diwethaf gyda'r dyddiad presennol...os yn fwy na 2-3 mis (?) mi fyddai'n cael y chop.

Wel, dim y chop, ond cael eu symud oddi ar y rhestr ac i dudalen archif ar y gwefan - "Mynwent y Rhithfro".

Beth ych chi'n meddwl - unrhywbeth i newid/adio/ail ystyried?

Rhithfro - Post Alpha Proper

21:08 1 sylw

Ok, so odd problemau gyda fe, mainly lawr i'r ffaith nes i ddim adeiladu sustem Admin iddo fe - ond dwi wedi erbyn nawr, wedi arbrofi tym bach mwy, ac wedi 'approvo' rheini sydd wedi ymuno cyn belled - sy'n golygu fod y sgript yn gweithio, ac yn gweithio'n well, achos does dim rhaid i'r sgript ol y gwybodaeth o'r bas-data pob tro mae rhywyn yn ceisio gweld y rhestr.

O ganlyniad, ma'r sgript yn gweithio, ac wir mewn statws beta nawr - gweithio allan y kinks nesa.

Dyma beth mae'r rhestr yn edrych fel ar sbwriel*spot (edrychwch i'r chwith - chi'n amlwg methu os ych chi'n gweld y cofnod mewn darllenwr ffrwd - a, ok, dyw e ddim yn edrych yn bert iawn ar hyn o bryd, ond mae'n gweithio....O NA! error yn Internet Explorer ar Windows! AARRRGGHHHH! ah well, back to work)

rhithfro.com

12:56 2 sylw

O'r diwedd, mae fersiwn beta o rhithfro.com arlein ac yn barod i'w ddefnyddio! hwre! Ma fe mewn sefyllfa beta fel wedes i, so os ydych chi'n mynd i unrhyw broblem, e-bostiwch fi neu gadawch neges yn y sylwadau.

rhithfro.com