Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

28 January 2005

noscope

10:11 0 sylw

noscope | snacksized portions of pointless stuff

efallai, but it's sooo preeedy

ATYPYK

01:15 0 sylw

atypyk

Sut yn y byd dwi heb flogio am hwn or blaen? Dwi di cael hwn yn y ffefrynnau ers sbel, ac mae e'n ansbaddidigeithus - y syniadau sydd gyda nhw... cofiwch edrych ar y section "Please"... gwirioneddol athrolyddol.... a ffrengig!!! (Bonws)

Witold Riedel

00:54 0 sylw

things magazine

00:08 0 sylw

26 January 2005

ColorWhore

22:11 0 sylw

GBrowser?

21:57 1 sylw

RES72

21:37 0 sylw

24 January 2005

Syniad hoffus

23:25 1 sylw

Mae blog dogfael yn flog newydd nath nic dafis ffeindio. Dwi di bod yn ei ddarllen a dwi'n rili lico beth mae e wedi gwneud - rhoi lluniau gyda'r geiriau am ei fywyd - syml iawn, ond rhywbeth on i byth wedi meddwl blogio amdano. Dwi wedi nawr.

(on. dwi'n defnyddio bwtwn BlogThis! i wneud y cofnod yma, a dwi'n mynd i ddefnyddio mwy o hwn i bostio cofnodion am gwefannau da dwi'n ffeindio tra'n syrffio)

16 January 2005

Rhithfro.com

16:57 0 sylw

Yn dilyn cofnod gynharach yn dweud fy mod wedi dechrau adeiladu sustem i blogwyr cymraeg, dwi wedi cymeryd cam ymlaen - rhithfro.com!

On i ishe neud yn siwr fod yr enw parth ddim yn cael eu prynnu gan rhyw fastad o gwmni fyddai wedi gofyn crocbris i unrhywun fyddai eisiau'r enw yna...

05 January 2005

Y Rhithfro

13:46 7 sylw

Gyda mwy o bobl yn barod wedi dechrau blogiau yn 2005 (melynwy, jimmy kniel, ffwdanu i enwi 3), mae'n amser meddwl am greu gwefan i'r rhithfro - rhyw fath o ganolfan i flogwyr cymraeg - gwefan pwrpasol sydd a sustem i'r defnyddwyr, yn hytrach na cartref presennol y rhithfro. Dwi'n barod wedi dechrau adeiladu'r sustem, fydd yn gadael i aelodau'r rhithfro (hynny yw y blogwyr) i wneud y canlynol:

  1. Mewngofnodi a newid gwybodaeth am eu blogiau eu hunain
  2. Rhoi help iddynt rhoi rhestr y rhithfro ar eu blogiau
  3. Rhoi proffeil iddynt
  4. Rhoi ffeil OPML ar gael i bobl adio holl flogiau'r rhithfro i'w darllenydd RSS/RDF/Atom (Bloglines, RSSReader ayyb)

Mae hwna'n ddechrau, ond dwi'n credu fod potensial i gynnig mwy i'r blogwyr a'r ymwelwyr. Oes gennych syniadau? ADIWCH SYLW I'R COFNOD!