Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

27 December 2004

Fucking bastad Internet Explorer

19:23 2 sylw

Dwi wedi cael digon ohono! Dwi'n gwybod ni ddylen i ei ddefnyddio achos fod nifer o borwyr gwell, ond mae e di bod yn haws......tan yn ddiweddar.

Ers dod nol o coleg dwi wedi bod yn defnyddio cyfrifiadur mam a dad, gan nad oes gen i cysylltiad i'r gliniadur.

Rhywffordd, ma nhw di llwyddo downloado 293 eitemau o spyware ar y cyfrifiadur, i gyd rhywffordd wedi'i linco lan gyda IE.

Fuck that I say, so dwi wedi penderfynnu defnyddio Firefox, ar ol cael fy convinco gyda rhai straeon ar browsehappy (doedd dim angen lot o convinco a ddweud y gwir)

Yn anffodus neu'n ffodus, sain siwr, dyw yahoo! launch ddim yn gweithio ar firefox, felly dwi wedi mynd yn ol i last.fm -> a ma fe'n gret, whare teg.

Dwi'n lico firefox lot, mae'r tab browsing yn ffantastic, ac mae ambell themau eitha da (a lot crap) i'w lawrlwytho. Dwi'n defnyddio Saferfox, sy'n edrych yn debyg-ish i safari.

vive la firefox

logo browsehappy


gyda llaw, oes unrhywyn yn gwybod sut i gael gwared o IE o'r cyfrifiadur yn gyfangwbl? Bydd cael gwared ohono fe'n golygu fod y cyfrifiadur yn ffycio lan completely?

25 December 2004

NADOLIG LLAWEN!!!

00:01 0 sylw

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda!!!

14 December 2004

Vocab i gael ei ehangu

17:34 2 sylw

Yn ystod darlith ges i yn y coleg wythnos diwethaf, mi ddyweddodd Dr. Grahame Davies fod ei sustem Vocab sy'n cael ei ddefnyddio ar wefan BBC Cymru'r Byd wedi denu llawer o sylw oddi wrth nid yn unig adrannau gwahanol o'r BBC, ond pobl sydd yn bodlon cyfieithu'r peiriant geiriadur i ieithoedd arall yn ogystal â saesneg.

Mae'r adran plant wedi mynegi diddordeb er mwyn iddyn nhw gallu egluro geiriau cymhleth yn haws, ac mae'r adran cerddoriaeth glasurol wedi mynegi diddordeb i egluro enwau a termau cerddorol.

O blith y cynigon i ehangu'r vocab cymraeg roedd Rwsieg a Ffinneg.

Mi oedd sôn hefyd i rhoi sustem Vocab ar server yng Nghaerdydd a'i wneud ar gael i unrhywyn gyda gwefan cymraeg i'w ddefnyddio.

Un syniad fydd yn symud yr iaith gymraeg yn ei flaen loads.... a teclyn anhepgor i ddysgwyr.

09 December 2004

Pobl o Jail yn gweld y blog

23:57 1 sylw

Dwi'n defnyddio nedstat i weld pwy sydd yn edrych ar y blog, a dwi di dod ar draw person o jail yn America yn edrych arno:


6 December 14:15 Federal Bureau of Prisons, United States

Neis i weld fod criminals yr Amerig fawr yn darllen blogs

06 December 2004

Frindiau Fferm

14:02 0 sylw

Mae'r gwefan yma yn rhoi cyfle i chi brynnu gafr neu iar! Wel, dim i chi, ond gewch chi model bach. Mae'r anifail go iawn yn mynd i Affrica i helpu ffarmwyr tlawd wella eu safon byw, sicrhau bwyd i'w teuluoedd, ac yn galluogi eu plant i gael addysg. £30 am Gafr, £10 am Iar.... syniad perffaith i Mam a Dad am Nadolig!

http://www.farmfriends.org.uk/