Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

17 July 2005

Rhestr y Rhithfro

17:54 1 sylw

Fel ma lot ohonoch yn gwybod, ma nic wedi penderfynnu rhoi gorau i fod yn weinydd ar gyfer rhestr y rhithfro, ac yn eu dynnu i ffwrdd erbyn diwedd y mis. Er ei fod wedi dweud i chi gwneud trefniadau eich hunain ynglyn a hyn, gai adio nodyn yn dweud y mod yn gweithio ar gwasanaeth tebyg iawn ar gyfer rhithfro.com, fydd yn dechrau off yn debyg iawn i'r hyn wnaeth nic, ond yna'n cael ei ddatblygu i fod yn sustem fwy cadarn gyda mwy o opsiynau - wrth gwrs ma hwna'n dibynnu ar pa mor boblogaidd yw'r gwasanaeth, faint o blogiau cymraeg sydd ar gael, a faint o flogiau sy'n defnyddio'r sustem.

Gan fy mod yn mynd bant am gwyliau diwedd yr wythnos am 10 diwrnod, bydd y sustem ddim yn barod erbyn i nic ei dynnu o'r we, ond dylai fod yn barod nid nepell ar ol hynny.

Sgript y dyddiadau yn Gaeleg!

17:48 1 sylw

Mae fy sgript dyddiadau cymraeg ar gyfer blogger wedi'i chyfieithu i gaeleg gan rhyw foi - nath Rhys Wynne dweud wrtho fe amdano fe ac mi wnaeth e ebosto i ofyn i fi os oes ots da fi iddo ei newid... wrth gwrs mae'n iawn!

Braf yw gweld fod y sgript yn derbyn sylw aml-ieithyddol!

Cliciwch yma i weld ei flog, a sylwch ar y dyddiadau newydd

Patrymlun newydd

17:46 0 sylw

Dwi di neud patrymlun newydd i fy mlog - on i di bwriadu creu patrymlun fel hyn ers sbel - a ma fe ma o'r diwedd!

Beth yw'ch barn arni?

11 July 2005

Jeff Foxworthy

12:47 0 sylw

Arbrawf bach yn defnyddio sustem ebost-blogio blogger a yousendit er mwyn rhoi can lan ar y we - fel audioblog. Mae defnyddio yousendit yn handi achos sdim ishe meddalwedd ychwanegol a ma fe'n cael ei ddileu yn automatic ar ol 7 diwrnod.

Mae Jeff Foxworthy yn gomediwr standup redneck. Lawrlwythwch rhan o'i set "Have Your Loved Ones Spayed Or Neutered", Grocery Store (3.6 MB)