Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

24 August 2005

Gutenberg Project

14:12 1 sylw

Syniad da iawn glywes i amdano blynydde maith yn ol. O beth on in deall pryd 'ny, ar ol i awdur farw mae'r hawlfraint yn para i'r perchennog am 70 mlynedd neu rhywbeth tebyg. Ar ol hynny, mae'n iawn cyhoeddi fe.

Bwriad y Gutenberg Project yw i rhoi'r gweithie yma ar y we ar ffurf e-lyfrau, e-sheetmusic, e-audiobooks ag ati. Mae yna hyd yn oed adran Gymraeg!

Da de!

23 August 2005

Caru fy ngwaith

23:23 0 sylw

Nes i orfod gorffen job mewn bar wythnos diwethaf achos fod gen i ormod o waith gwe i'w wneud. Dyma fel dwi'n teimlo.

[diolch waxy]

Lladda fi os fedri di

23:10 0 sylw

Newydd wylio rhaglen rhagorol ar Channel4, sy'n rhan o gyfres psycho. Heno, ro'n nhw'n son am bachgen 16 mlwydd oed oedd wedi cael ei sugno mewn i rhyw fyd James Bond-aidd trwy chat room, oedd fod i edrych ar ol ffrind 14 mlwydd oed oedd e hefyd wedi cwrdd yn y chat room.

"You must protect him" oedd ei orchmynion ar y dechrau, ond wedyn cafodd orchmynion i'w ladd.

Sai moin sbwylio dim, ond mae gan y stori twist arbennig ar y diwedd....

"No-one on earth can write this kinda shit!"

A greda i fe hefyd. Mae'r stori yn un cwbl anghredadwy ond gwir. Neud i fi ishe 'sgrifennu nofel.

[dolen yma]

17 August 2005

Walken for president

00:18 0 sylw

Pa mor ffantastic fydde fe petai Christopher Walken rili yn Arlywydd yr Unol Daleithiau? Hoax yn sicr yw hwn, ond ma pwt bach ohona i'n gobeithio ei fod yn wir.

[trwy mdn]

02 August 2005

Blog newydd yn cael ei greu pob eiliad

22:38 0 sylw

Yn ol y BBC a Technorati ma blog newydd yn cael ei greu pob eiliad... a dwi'n siwr fod nifer ohonyn nhw'n sbwriel hefyd.