Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

21 March 2005

ypdet bach ar y rhithfro

22:51 0 sylw

Dwi'n cael problemau strwythyro rhithfro.com, wel, dim rili, ond mae'r ardal i aelodau'n llawer galetach i weithio allan nag rown i'n meddwl. On i heb feddwl (tan heddiw) fod gan pobl mwy nag un blog, ac felly ni fydden nhw ishe gorfod cael 2 cyfrif. Pethe twp.

Ta beth, dwi'n gobeithio cael fersiwn syml iawn iawn i fyny erbyn diwedd yr wythnos os nag oes unrhyw mwy o broblemau'n codi. Yn y fersiwn yma dwi'n gobeithio fydd hi'n bosib.

1. Rhestri pob blog sy'n aelodau, gyda ychydig o wybodaeth amdan pob un (enw, dolen, disgrifiad, pryd cafodd y blog eu diweddaru diwethaf)

2. Galluogi blogwyr i greu rhestr y rhithfro eu hunain, fydd yn storio eu penderfyniadau mewn bas-data, ac fydd wedyn yn eu galluogi i rhoi'r rhestr ar eu blog yn hawdd iawn fel un presennol y rhithfro.

Ymhen rhyw bythefnos i'r wefan syml fod i fyny, dwi'n gobeithio adio ystadegau i'r wefan - hynny yw, ystadegau o'r nifer o bobl sydd wedi bod yn clicio ar blogiau trwy'r rhestr. Efallai nai aros tan mae'r rhestr yn digon poblogaidd.

God knows pan fydd y gwefan wedi cwpla ar y rat hyn, ond ma rhywbeth yn well na dim sbo.

0 sylw

Adia sylw