Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

29 June 2005

Un (ffantastic) am yr haf

20:19 0 sylw

Gethon ni band-llydan 1MB yn ddiweddar, ac achos y cynydd yn y cyflymder, dwi rili wedi joio lawrlwytho ffilmiau bach... ac heddi ma fe di helpu fi dod i hyd i band newydd dwi'n lico.

On i'n darllen coolhunting heddi a weles i pwt bach am ok go. Beth nath wir denu fy sylw oedd y ffaith fod fideo ar gael i'w lawrlwytho ohonon nhw yn dawnsio i'w sengl "A million ways". Ma fe'n briliant yn fy marn i - syml ond eto'n amlwg yn lot o waith. Fanhyn i'w weld.

Mae'r sengl yn werth eu clywed hefyd - ac fel y dywedodd Josh Rubin, "A little bit indie, a little bit pop, the single has the makings of a summer anthem"... mae'n iawn.

Unrhywun di clywed amdanyn nhw?

okgo  |  coolhunting

0 sylw

Adia sylw