29 August 2004
Y Rhithfro
22:35 | 1 sylw
Mae gen i syniad o adeiladu bas-data o wybodaeth am blogiau'r rhithfro, ac yna creu nifer o opsiynau fel estyniad mwy hyblyg o sgript nic. Y syniad yw fydd gan aelodau'r rhithfro cyfrif eu hunain y bydden nhw'n gallu newid eu hunain, fydd yn cymeryd llawer o'r baich oddi ar nic ei hunain. Mi allai'r sgript gael ei wneud i rhoi:
- mwy o rheolaeth dros fformat y dolenni ar y gwefan
- opsiwn i aelodau osgoi rhoi eu cyfeiriad eu hunain yn y rhithfro
- dewis derbyn ystadegau syml ar eu boblogrwydd yn y rhithfro
- dewis i'r sgript printio 'mond y blogiau sydd wedi'i diweddaru'n ddiweddar
- dangos y blogiau mewn trefn gwahanol (y wyddor, mwyaf diweddar, mwyaf poblogaidd ayyb.)
'Se ni'n credu fydd hyn yn rhoi hwb i'r blogwyr mas yna, ond cyn i fi fynd ati, dw i ishe feedback os gwelwch yn dda... eich barn chi sy'n bwysig mewn gwirionedd... gadewch sylw. Diolch
1 sylw
Nic
Mae hynny yn swnio'n wych. Does gen i ddim clem ynglyn â sgript jafa ac ati (wnes i ddwyn y sgript 'na oddi wrth Pat). Dyw e ddim yn anodd iawn i'w diweddaru, ond byddai'n braf iawn cael rhywbeth mwy hyblyg. Mae'n bwysig bod hi'n hawdd iawn ar ochr y denfyddiwr - cofia bod y rhan fwya o flogwyr Cymraeg ddim yn deall HTML, heb sôn am sgript jafa (llai na fi, hyd yn oed). Sdim pwynt wneud y rhyngwyneb mor gymhleth y bydd pobl yn gofyn i ti am help bob tro.
Reit, well i mi ychwengu'r blog 'ma i'r hen restr, tra bod e'n dal 'na.