Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

17 July 2005

Rhestr y Rhithfro

17:54 1 sylw

Fel ma lot ohonoch yn gwybod, ma nic wedi penderfynnu rhoi gorau i fod yn weinydd ar gyfer rhestr y rhithfro, ac yn eu dynnu i ffwrdd erbyn diwedd y mis. Er ei fod wedi dweud i chi gwneud trefniadau eich hunain ynglyn a hyn, gai adio nodyn yn dweud y mod yn gweithio ar gwasanaeth tebyg iawn ar gyfer rhithfro.com, fydd yn dechrau off yn debyg iawn i'r hyn wnaeth nic, ond yna'n cael ei ddatblygu i fod yn sustem fwy cadarn gyda mwy o opsiynau - wrth gwrs ma hwna'n dibynnu ar pa mor boblogaidd yw'r gwasanaeth, faint o blogiau cymraeg sydd ar gael, a faint o flogiau sy'n defnyddio'r sustem.

Gan fy mod yn mynd bant am gwyliau diwedd yr wythnos am 10 diwrnod, bydd y sustem ddim yn barod erbyn i nic ei dynnu o'r we, ond dylai fod yn barod nid nepell ar ol hynny.

1 sylw

Blogger Nic
Sdim hast ofnadwy arna i i ddileu'r hen beth Aled. Allai fe aros lan tan ar ôl y Steddfod, neu beth bynnag.

Adia sylw