05 September 2005
datblygiadau rhestr y rhithfro
22:39 | 2 sylw
- tudalen adrodd (fel maes-e) i bobl ddweud os nad oes blog wedi'i ddiweddaru'n ddiweddar, neu
- creu tudalen admin fydd yn checko ffrydau (plural ffrwd?) aelodau'r rhestr ac yn cymharu dyddiad eu cofnod diwethaf gyda'r dyddiad presennol...os yn fwy na 2-3 mis (?) mi fyddai'n cael y chop.
Wel, dim y chop, ond cael eu symud oddi ar y rhestr ac i dudalen archif ar y gwefan - "Mynwent y Rhithfro".
Beth ych chi'n meddwl - unrhywbeth i newid/adio/ail ystyried?
2 sylw
Nwdls
Dwi'n meddwl bo fi di camddeall Rhithfro rhyw chydig...
O'n i'n meddwl fod posibilrwydd gweld y rhestr ar rhithfro.com hefyd, yn hytrach na jest ar flogiau pobol.
Be ro'n i'n feddwl o ran diweddarwyd oedd fod y rhestr yma fuasai ar rhithfro.com yn dangos pryd diweddarwyd y blogiau ddiwethaf (drwy system ffidau a rhyw fath o admin/sgript gen ti). Buasai ymwelydd a Rhithfro.com wedyn yn gallu gweld pa flogiau sydd a chofnodion newydd. Gan fod lot o bobol ddim yn dewis defnyddio darllennydd ffid (er, dwi'm yn gwybod pam), dwi'n credu buasai hyn yn wasanaeth reit ddefnyddiol.
Dwi 'di esbonio'n hun? Na ddim rili naddo. Ta waeth!
Os nad ydi hyn yn bosib, fasa'n neis cael y rhestr ar rhithfro.com beth bynnag.
Hwyl
R
Aled
A! fi'n gweld... falle datblygiad yn y dyfodol... Odd syniad gyda fi i wneud darllenydd ffrwd odd pobl yn gallu downloado fyddai mond yn darllen rhai'r rhithfro, a fyddai'n diweddaru'r rhestr pan fo aelod newydd wedi'i adio...
Mae cael y rhestr ar y dudalen flaen ar y gweill, yn ogystal a chreu ffeil .opml downloadable i rhoi'r ffrydau i darllennydd ffrwd. Dwi hefyd yn mynd i gasglu ystadegau ar y nifer o bobl sy'n mynd i blog ar y rhithfro o'r rhestr (mond y nifer) a'i ddangos ar y wefan... ond wneiff hwna aros tan bod mwy o aelodau.