Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

01 September 2004

Defnyddia google.com/intl/cy/, nid gwgl

14:00 3 sylw

Am f*cking cheek!

Dwi 'di bod yn meddwl hwna am amser hir nawr, a nawr fod gen i blog, dwi'n cael rantio (wehey!). Ond seriously, mae'r Cymraeg o'r diwedd yn cael cydnabyddiaeth gan gwmni mawr cyfeledig, a beth mae rhai o'r Cymry yn eu wneud? Gwneud gwefan newydd, cymreigio'r enw, a dweud wrth bawb i ddefnyddio hwna!

A beth sy'n waeth, ma pobl yn cwympo amdano fe! Pa blatform sydd gyda ni y Cymry i fynnu gwasanaethau Cymraeg oddi wrth cwmnïau mawr preifat (fel oren), lle'r peth cyntaf y gwnewn ni yw ripo'r gwasanaeth bant a'i "wella".

F*CKING GWARTH!

3 sylw

Anonymous Anonymous
Cytuno 100% - RhLl

Blogger Nic
Wel, chwarae teg, dydyn nhw ddim yn ripo Google off, gan fod Google wedi rhoi'r offer iddyn nhw wneud y safle - ond dw i ddim yn siwr am yr enw - 'sai Google moyn boddran, fyddai'r safle yn ddigon hawdd i gau i lawr gyda gorchymyn cease and desist.

Dw i ddim yn gweld yr apêl fy hun - mae tudalen Google yn llawer haws i'w ddefynddio, mae un Gwgl yn or-lawn o hysbysebion a phob math o stwff sydd ddim byd i wneud ag ymchwilio (sef raison d'être Google) - ac mae tudalen canlyniadau yn dod o Google ei hun, felly prif gwahaniaeth rhwng Google a Gwgl, yw bod Gwgl yn arafach (achos y redirects) ac mae mwy o Saesneg ar y rhyngwyneb.

Blogger Unknown
http://www.chwilotydd.com

Mae yno un arall wedi cyraedd ! Iawn, dwi'n gwybod fod yna mwy na digon o'r gwefanau fel hyn rwan ond dwi wedi creu un hefo un gwahaniaeth.

Y gwahaniaeth mwyaf hefo gwgl.com ac chwilotydd.com yw bod gan chwilotydd gronfa ddata o wefanau Cymraeg.

Os oes gwefannau Cymraeg yn ein cronfa ddata sy'n cynnwys y gair yr ydych yn chwilio amdani, byddant yn ymddangos yn 1af ar y rhestr !

Dwi'n meddwl bod hyn yn rhiwbeth gwahanol ac does neb arall yn gwneud hyn ar y funud.

Adia sylw