Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

05 September 2005

Comedi

23:47 1 sylw

wow... ma'r blogio ma'n dechrau troi'n obsesiwn.

Dwi'n dwli ar comedi, ac yn gwrando iddo'n aml tra'n gweithio ar y cyfrifiadur... yn anffodus, sai'n gwybod am lawer o lefydd lle allai wrando arno... y lle gorau cyn belled yw radio4 a radio7 (trafodaeth diddorol ar adegau am gomedi os nad yn creu chwerthin), ac hefyd yn gwrando ar yahoo! launchcast, last.fm, a shoutcast, ond i gyd dwi'n clywed yw comedi crap gan pobl duon sy'n rhegi ac yn credu fod siarad am rhyw yn mynd i gael laffs yn awtomatig... na!

Incidently, ar ol i mi gofnodi am Jeff Foxworthy ychydig fisoedd yn ol, darllenais ei biograffi ar yahoo!, a ffeindio allan fod gan y boi yma'r albwm gomedi mwyaf llwyddiannus erioed ("You might be a redneck if..."), yn gwerthu dros 4,000,000 copi. waw.

Ma angen i fi ffeindio mwy o ffynonellau comedi... unrhywun?

1 sylw

Blogger Chris Cope
Dw i'n synnu y baset ti'n mwynhau Jeff Foxworthy, ond 'to each his own.' Os wyt ti'n hoffi Foxworthy, efallai baset ti'n hoffi Ron White, Bill Engvall, neu Larry the Cable Guy -- rhan o Blue Collar Comedy Tour ydyn nhw (http://bluecollarcomedytour.warnerbros.com/) a mae'r hiwmor nhw yn cyffelyb.

Adia sylw