09 September 2005
y blog mwyaf poblogaidd
15:44 | 5 sylw
Mae pob blog sydd ar y rhestr wedi cael un ymweliad o leiaf, a'r blog mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw Bachgen o Bontllanfraith.
Cyn hir dwi'n bwriadu rhoi'r rhestr o'r blogiau ar hafanddalen y rhithfro mewn ffordd fydd yn dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw. Ni fydd yr union ffigyrau'n cael ei arddangos er mwyn arbed embaras (!) i'r blogiau amhoblogaidd (sbwriel*spot included!).
Hefyd falle fyddai'n defnyddio technoleg AJAX er mwyn dangos pryd diweddarwyd y blogiau diwethaf. Long-term plan yw hwn achos bydd rhaid i fi ddysgu mwy amdano gynta. Dweud y gwir mae e i weld yn eitha straight-forward, ond bydd seto fe lan ar gyfer a) y rhestr; b) ffrwd atom c) porwyr gwahanol, yn neud e'n anoddach..... challenge!
5 sylw
Chris Cope
Diolch yn fawr iawn am eich gwaith galed ar hyn. Dw i'n hoffi'r syniad o dangos pa blogiau ydy mwyaf poblogaidd -- hyd yn oed os fydda i ddim un ohonyn nhw.
Geraint Criddle
Woo! Number one, baby!
Mr Gasyth
Cytuno, byddai rhestr o'r blogiau mwyaf poblogaidd bob wythnos/bob mis yn ddiddorol. felly hefyd ffordd o weld pa flogiau a ddiweddarwyd yn ddiweddar.
Blogel
Yup. Cytuno y byddai'n cwl gallu gweld pwy sydd wedi diweddaru'i blogiau heb orfod chwynu drwyddyn nhw! Ta AB :o)
Sanddef
Byddai'n well petai na ryw ffordd o denu siaradwyr Cymraeg i'r rhithfro. Ar hyn o bryd lleiafrif bach ydym ni, a nifer y blogiau ar restr y rhithfro mwy neu lai'n adlewyrchu faint o bobl sy'n darllen blogiau Cymraeg. Gyda pethau fel y mae dw'i mwy neu lai'n sgwennu erthyglau ar gyfer "posterity", neu yn y gobaith y byddant rhyw ddydd yn cael eu darllen yn y Gymru Fydd. Chwarae teg am dy waith galed ac hefyd i bawb arall sy'n neud gwaith arloesol yn y rhithfro. "Our day will come" ;-)
