13 September 2004
Hello....ta ta!
01:13 | 2 sylw
Dwi wedi dechrau defnyddio hello - y rhaglen yna sy'n ala'r lluniau i'r we/ffrindiau - rhaid dweud odd e'n edrych yn ffantastic, ond mae'r rhyngwyneb yn anodd iawn defnyddio. Eniwe, o'n i'n meddwl y dylen ni arbrofi'r teclyn yma gyda llun, a'r llun yma yw un o'm lluniau i, wedi ei wneud ar ol clywed dogfen llynedd am Dylan Thomas yn marw 50 mlynedd yn ol.
Dyma'r llun (wedi diflasu ar ei weld e)
2 sylw
Bratiaith
Llun neis. Ti'n iawn mae hello'n ofnadw o gymhleth i ddechrau, ond dyw e ddim yn cymryd oesoedd i ddod i'w arfer ag ef. Fy mhrif broblem i yw anghofio newyd y blog settings ac anfon llun i'r Flog anghywir gan fod 3 'da fi.
Gair o gyngor - peidiwch รข thrio golygu'r llun wedi i bostio. os oes rwpeth o'i le jyst dileu'r peth ac ail anfon llun newydd. - wnes i trio symud llun i bost arall a roedd fy mlog yn ffycd tan imi ddileu'r "offending" postiau.
Bratiaith
Dwi wedi bod yn twtio'm gosodiadau Hello.
http://www.bratiaithblog.blogspot.com -
mae "thumbnails" llai yn well i'r rheini sydd heb Fandlydan.