01 September 2004
Plaid Cymru yn rhoi'r gorau i .cw
18:09 | 0 sylw
Sa i'n gwbod faint o bobl oedd yn gwybod am hyn, yn sicr on i ddim am amser hir, fod plaid cymru wedi dechrau ymgyrch .cw, hynny yw, cael estyniad .cw ar ddiwedd enw parth.
Dyma'r syniad gorau dw i di clywed ers amser! Dw i'n gwbod am ymgyrch.cym, ac yn gwybod bod yna lot o gefnogaeth iddo, ond buasai Cymru byth yn cael yr estyniad. Mae'n 3 llythyren o hyd, a mae'r estyniadau yna (.com, .net, .org, .biz etc.) yn cael ei gadw i bawb.
Beth am .cy? neu .ws?
Mae .cy wedi'i gymryd gan cyprus, a ws gan western samoa. Braidd yn anheg fod cyprus yn mynd a .cy, gan taw cy yw ID ISO Cymraeg, ond ta beth.
Pam .cw?
Mae .cw yn ddwyieithog, sy'n gret, a gallen ni cael enwau parth fel www.w.cw/wcw/haha
Pam so ni'n cael un?
Yn ol yr Internet Assigned Numbers Authority (IANA) , yn syml, mae rhaid cael cod ISO sy'n dynodi ein bod yn cael ein cydnabod fel gwlad.
Gret! Pwy sy'n rhoi nhw mas?
Pwy bynnag sy'n rhedeg y wlad, fi'n credu.
Aaaaaaaaah! Gô-dam-it!
Na lle mae'r problem yn dod i fewn, nage fe. Mae'n rhaid i San Steffan cydnabod bod cymru yn wlad. Dyna'r snag.
Yn ffodus roedd Plaid Cymru yn cynnal ymgyrch .cw ar eu tudalen ymgyrchoedd, ond rhyw ffordd mae'r ymgyrch wedi diflannu. O'n i'n breuddwydio? Sa i'n credu.
DEWCH A'R YMGYRCH YN OL PLAID CYMRU!