01 September 2004
Sgript jafa y dyddiadau - WEDI'I DDIWEDDARU AR YR 11/09/04
18:21 | 3 sylw
Mae'r sgript ar gael i bawb i'w ddefnyddio gan ei fod yn cael ei rhyddhau o dan drwydded creative commons. Mae angen newid patrymlun y blog ychydig a'r settings er mwyn ei ddefnyddio.
MAE'R SGRIPT WEDI'I NEWID I GAEL GWARED O RHAI BUGS (FEL NODWYD GAN NIC). DOES DIM PROBLEMAU NAWR (sa i'n credu)
1. Y Patrymlun
A: Yn gyntaf, mae'n rhaid rhoi'r sgript i mewn yn y patrymlun. Copïwch y côd yma i fewn i'r patrymlun o dan y
</style>
ac uwchben y </head>
:
<script language="javascript" type="text/javascript">
<!--// CREUWYD GAN SBWRIEL. DEFNYDDIWCH O DAN DRWYDDED CREATIVE COMMONS - http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/
function dyddiadCymraeg(dString) {
var dyddArray = new Array("Sul","Llun","Mawrth","Mercher","Iau","Gwener","Sadwrn");
var ordArray = new Array("af","il","ydd","ydd","ed","ed","fed","fed","fed","fed","eg",
"fed","eg","eg","fed","eg","eg","fed","eg","fed","ain",
"ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain");
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Fawrth","Ebrill","Fai","Fehefin",
"Orffennaf","Awst","Fedi","Hydref","Dachwedd","Rhagfyr");
var dArray = dString.split(".");
var dydd = parseInt(dArray[0]);
var mis = parseInt(dArray[1]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[2]);
var d = new Date();
d.setDate(dydd);
document.write("Dydd " + dyddArray[d.getDay()] +", "+ dydd + "<sup>"+ ordArray[(dydd-1)] +"</sup> o "+ misArray[mis-1] +", "+ blwyddyn);
}
function archifCymraeg(dString) {
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Mawrth","Ebrill","Mai","Mehefin",
"Gorffennaf","Awst","Medi","Hydref","Tachwedd","Rhagfyr");
var dArray = dString.split(".");
var mis = parseInt(dArray[0]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[1]);
document.write(misArray[mis-1] +", "+ blwyddyn);
}
//-->
</script>
B: Ar ôl i chi wneud hynny, ffeindiwch y tag
<$BlogDateHeaderDate$>
a rhowch y canlynol yn ei le:
<script>dyddiadCymraeg('<$BlogDateHeaderDate$>');</script> <noscript><$BlogDateHeaderDate$></noscript>
C: Ffeindiwch yr ardal archifau, ac yna'r tag
<$BlogArchiveName$>
a rhowch y canlynol yn ei le:
<script>archifCymraeg('<$BlogArchiveName$>');</script> <noscript><$BlogArchiveName$></noscript>
2. Y Settings
Ewch i'r dashboard yn blogger, ac i settings eich blog. Yna cliciwch ar yr dolen formatting yn yr isfwydlen. Ar y dudalen yna fe welwch opsiynau am y dyddiad. Mae'n rhaid i chi ddewis yr opsiynnau canlynol:
1.9.04 am y dyddiadau;
09.04 fel enghraifft am yr archifau.
Safiwch, a bant a chi!
3 sylw
Aled
bendigedig Sbwriel.
ti'n genius.
Nic
Diolch yn fawr am wneud hyn, Aled. Dw i wedi gosod (ar ôl addasu tipyn bach i gael dyddiadau symlach) ar fy mlog Englyn y Dydd. Dw i'n credu mod i wedi ffeindio problem bach - mae cofnod am y 31 Awst yn ymddangos fel y 1af. Ydw i wedi wneud rhywbeth angywir wrth addasu, neu oes problem yn y côd gwreiddiol?
Yn y rhestr o enwau y misoedd ti wedi colli'r treiglad ar "Ragfyr". ;-)
Aled
Ma' 'na cwpl o fugs ynddo fe, a dwi'n bwriadu edrych mewn i'w gwella yn fuan. Yn anffodus ma' 'da fi lot o waith ar y gweill, ond unwaith dw i wedi cwpla, sorto hwna mas yw'r number one priority