24 November 2004
Sgript hap(us) y Rhithfro
21:13 | 6 sylw
Beth ma fe'n neud?
Rhoi opsiynau - allech chi ddewis unai i rhoi e ddangos blog ar hap, neu y blog nesaf yn y rhestr (sydd fel mae'n digwydd wedi'i sortio yn nhrefn y wyddor), allech chi ddewis peidio dangos eich blog chi eich hunain, newid yr hyn sydd fel arfer yn y seren, a hefyd rhoi'r opsiwn i chi adio dolen i ymwelwyr adio'r blog i'w rhestr bloglines.
Pam?
Pam lai? Bach o hwyl, a newid ffresh i'r ymwelwyr bob tudalen yn lle cael ei bombardio gyda lot o dolenni i flogiau gwahanol.
Mae e i weld yn gymhleth, rhywbeth allai ddim gwneud!
Ar hyn o bryd allai weld hynny, ond dwi'n bodlon ysgrifennu fel manual bach i gyd-fynd gyda fe, ond dim ond os oes digon o bobl eisiau i mi wneud....felly gadewch sylw os ydych!
Diolch
6 sylw
Aled
Os oes diddordeb gyda pobl dw i'n bwriadu gwneud sgript gyda hyd yn oed mwy o opsiynau ond heb yr helbil!
Nwdls
Dwi'n hoffi fo, mae'n cadw'r bar ochr yn reit daclus (a dwi angan hynna ma'r ffont yn massif gen i a dwi'n methu newid o!)
cridlyn
Lyfli jybli. Rho seminar dwyawr i fi a falle bydda' i'n gallu ei ychwanegu at fy mlog. Ond mae'n syniad da, 'chan.
Nic
Mae hyn yn wych Aled, a bydda i'n defnyddio fe ar fy mlogs i yn y man. Dw i wedi symud dy bost ar y maes i edefyn newydd i ni drafod yn bellach.
Nic
Un syniad sy'n fy nharo yn syth yw byddai'n neis cael rhyngwyneb HTML ar gyfer yr holl variables ti'n defnyddio. Dw i'n meddwl am rywbeth fel y teclyn yma dw i'n ei ddefnyddio i guddio cyfeiriadau ebost.
Rhaid cofio bod y rhan fwya o flogwyr Cymraeg ddim yn gwybod beth yw Javascript, heb sôn am sut i haco fe ;-)
Aled
Aye o'n i'n meddwl am neud hyna nic, falle deiff e yn y cofnod nesa