Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

27 December 2004

Fucking bastad Internet Explorer

19:23 2 sylw

Dwi wedi cael digon ohono! Dwi'n gwybod ni ddylen i ei ddefnyddio achos fod nifer o borwyr gwell, ond mae e di bod yn haws......tan yn ddiweddar.

Ers dod nol o coleg dwi wedi bod yn defnyddio cyfrifiadur mam a dad, gan nad oes gen i cysylltiad i'r gliniadur.

Rhywffordd, ma nhw di llwyddo downloado 293 eitemau o spyware ar y cyfrifiadur, i gyd rhywffordd wedi'i linco lan gyda IE.

Fuck that I say, so dwi wedi penderfynnu defnyddio Firefox, ar ol cael fy convinco gyda rhai straeon ar browsehappy (doedd dim angen lot o convinco a ddweud y gwir)

Yn anffodus neu'n ffodus, sain siwr, dyw yahoo! launch ddim yn gweithio ar firefox, felly dwi wedi mynd yn ol i last.fm -> a ma fe'n gret, whare teg.

Dwi'n lico firefox lot, mae'r tab browsing yn ffantastic, ac mae ambell themau eitha da (a lot crap) i'w lawrlwytho. Dwi'n defnyddio Saferfox, sy'n edrych yn debyg-ish i safari.

vive la firefox

logo browsehappy


gyda llaw, oes unrhywyn yn gwybod sut i gael gwared o IE o'r cyfrifiadur yn gyfangwbl? Bydd cael gwared ohono fe'n golygu fod y cyfrifiadur yn ffycio lan completely?

2 sylw

Blogger Nic
Os ydy dy rieni di fel fy rhieni i, i gyd sy angen yw dileu'r eicon o'r pen desg, a wneud yr un Firefox mor amlwg ag sydd yn bosib - "dyma'r peth i glicio os dych chi am fynd ar y we". Dydy'r rhan fwya o ddefnyddwyr ddim yn gwybod beth *yw* porwr, heb sôn am y gwahaniaethau rhyngddyn nhw. (Dw i newydd ddod yn ôl o'r gogledd, lle mae cyfrifiadur Mam yn llawn dop o spyware, ac olion pob worm 2004.)

Anonymous Anonymous
Mae'n amhosib cael gwared o IE yn gyfan gwbwl o Windows. Fedrwch chi ddim deletio'r icon IE ar y desktop. Dyma pam ye oedd Microsoft yn y llys gyda anti-competition laws, oherwydd bod nhw'n embeddio browser nhw yn Windows, a ddim yn rhoi cyfle i bobl erill.

Adia sylw