Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

14 December 2004

Vocab i gael ei ehangu

17:34 2 sylw

Yn ystod darlith ges i yn y coleg wythnos diwethaf, mi ddyweddodd Dr. Grahame Davies fod ei sustem Vocab sy'n cael ei ddefnyddio ar wefan BBC Cymru'r Byd wedi denu llawer o sylw oddi wrth nid yn unig adrannau gwahanol o'r BBC, ond pobl sydd yn bodlon cyfieithu'r peiriant geiriadur i ieithoedd arall yn ogystal â saesneg.

Mae'r adran plant wedi mynegi diddordeb er mwyn iddyn nhw gallu egluro geiriau cymhleth yn haws, ac mae'r adran cerddoriaeth glasurol wedi mynegi diddordeb i egluro enwau a termau cerddorol.

O blith y cynigon i ehangu'r vocab cymraeg roedd Rwsieg a Ffinneg.

Mi oedd sôn hefyd i rhoi sustem Vocab ar server yng Nghaerdydd a'i wneud ar gael i unrhywyn gyda gwefan cymraeg i'w ddefnyddio.

Un syniad fydd yn symud yr iaith gymraeg yn ei flaen loads.... a teclyn anhepgor i ddysgwyr.

2 sylw

Blogger Nwdls
Dwi'n cytuno. Edrych mlaen i roi tro iddo ar y blog(iau), i weld sut mae'n gweithio gyda iaith lafar.

Datblygiad cyffrous iawn yn fy marn i.

Blogger Nic
Ie, bydd hyn yn wych. Mae cymaint o ddysgwyr sy'n darllen (a sgwennu) blogs Cymraeg. I iaith fel y Gymraeg, lle mae helpu dysgwyr i groesi'r bont mor bwysig, mae pethau fel hyn yn bwysicach byth na meddalwedd cyfieithu Babelfishaidd, ac yn fwy ymarferol (gan fod y technoleg yna mor gostus i'w ddatblygu). Dw i'n disgwyl ymlaen yn arw at weld hyn "mynd yn gyhoeddus".

Defnydd gorau o'r ffî trwydded ers iddyn nhw ladd Reg Harris, dwedwn i.

Adia sylw