05 January 2005
Y Rhithfro
13:46 | 7 sylw
Gyda mwy o bobl yn barod wedi dechrau blogiau yn 2005 (melynwy, jimmy kniel, ffwdanu i enwi 3), mae'n amser meddwl am greu gwefan i'r rhithfro - rhyw fath o ganolfan i flogwyr cymraeg - gwefan pwrpasol sydd a sustem i'r defnyddwyr, yn hytrach na cartref presennol y rhithfro. Dwi'n barod wedi dechrau adeiladu'r sustem, fydd yn gadael i aelodau'r rhithfro (hynny yw y blogwyr) i wneud y canlynol:
- Mewngofnodi a newid gwybodaeth am eu blogiau eu hunain
- Rhoi help iddynt rhoi rhestr y rhithfro ar eu blogiau
- Rhoi proffeil iddynt
- Rhoi ffeil OPML ar gael i bobl adio holl flogiau'r rhithfro i'w darllenydd RSS/RDF/Atom (Bloglines, RSSReader ayyb)
Mae hwna'n ddechrau, ond dwi'n credu fod potensial i gynnig mwy i'r blogwyr a'r ymwelwyr. Oes gennych syniadau? ADIWCH SYLW I'R COFNOD!
7 sylw
Rhys Wynne
Na does dim syniad gyda fi ond nai adael sylw achos bod o'n beth neis i'w wneud. Roedd rhestr rhithfro Nic yn ddefnyddiol iawn ar y dechrau ond gyda blogiau'n cael eu abandno, roedd yn dod yn llai defnyddiol. Diolch byth am bloglines. Er dwi'n meddwl bydd dy syniad di'n llwyddianus a byddaf yn bendant yn ei ddefnyddio ac yn cofrestru fy mlogiau. Hefyd dwi wedi defnyddio dy gôd dyddiadau hynod ddefnyddiol yn llwydiannus ar un o fy mlogs ond ar www.gwenudanfysiau.blogspot.com dwi wedi gwneud llanast ond ddim yn siwr beth. Roedd mis Rhagfyr yn ymddangos fel Tachwedd ac mae Ionawr yn ymddangos fel Undefined. Oes yna rhyuwbeth amlwg dwi wedi ei ewneud o'i le heb i ti wel fy template?
Aled
ysgrifenna hwn yn lle'r côd ti di rhoi:
<script language="javascript" type="text/javascript" src="http://rhithfro.smotyn.com/dyddiadau.js"></script>
Nic
Dw i'n tu ôl i ti 100% ar hyn Aled. Fel mae Rhys yn dweud, mae'r rhestr o'n i'n ei gadw yn dod yn llai ac yn llai defnyddiol wrth i'r nifer o flogiau Cymraeg yn cynyddu, ac mae wir angen rhywbeth mwy hyblyg. Pan dechreuais i gadw'r rhestr oedd rhyw hanner dwsin o flogiau; erbyn hyn dw i ddim yn gallu cadw lan, a dw i'n dal i feddwl nad yw blogio wedi "cyrraedd" yng Nghymru eto.
Mae angen rhywbeth gwell, felly, gan rywun sy'n gwybod beth maen nhw'n wneud yn dechnegol i mynd â fe yn ei flaen - h.y. nid fi ;-)
Aled
Dwi'n credu 'se fe'n syniad da i rhoi'r gallu i flogwyr penderfynnu ar ba mor hir dyle fe fod cyn i hen flogiau (hy. y rhai sydd heb cael ei ypdetio) gael ei ddileu or rhestr. Dim eu dileu rili, ond cael ei tynnu allan o'i rhestr nhw.
Opsiynau - wythnosol, misol, bi-fisol, blynyddol etc.
ie?
Rhys Wynne
Dwi'n gwbod ei fod yn gyfnod hir, on byddwn i'n dweud pob 2 fis i fod yn deg ar bobl sydd ddim gyda mynediad cyson i'r we a sydd efallai'n mynd drwy gyfnodau prysur yn eu bywyd go iawn (hy oddi ar y we)!. Gall y bobl hyn fod a rhywbeth llawer mwy diddorol i'w gyfrannu na rhai sydd a mwy o amser a sy'n blogio sawl gwaith mewn diwrnod ond ddim gyda'r cyfle i'w rannu.
Dioch am y cynogr ynglyn ar côd Aled, dwi ddim yn hollol glir yn lle pa ran gan fod y côd gwreiddiol a roddaist yn llawer hirach. Pan ddof yn ôl o'm gwyliau mi nai roi tro arno beth bynnag (gan gofio arbed copi o'r hen template gyntaf!)
cridlyn
DIM SYNIAD OND LLAWER O FRWDFRYDEDD! RAAAAAA!
Nwdls
Syniad gwych. Ma cael canolfan o'r fath yn hanfodol ar gyfer pobol sydd dim yn defnyddio bloglines (y trueiniaid! Allai ddim byw hebddo rwan).
Os felly, oes rhyw ffordd o gael un dudalen lle rhestrir y blogiau yn ol pa un sydd wedi postio ddiwethaf h.y. defnyddio ffid rss y blogiau i ychwanegu'r un diweddaraf i'r top gan wthio'r lleill lawr y rhestr.
Bydd hyn yn rhoi y fantais ddwbl o weld pwy sydd wedi blogio'n ddiweddar ac hefyd galluogi'r gwe-feistr i weld yn union pa rai sydd wedi bod yn segur ac am ba hyd o amser. Mae'n deg yn tydi? Feasible? Dwn im dwi'm yn techy...drosodd i chi