Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

03 October 2005

Blog-gwrdd

19:10 3 sylw

Mae Rhys Wynne, Geraint Criddle, a Chris Cope wedi trefnu blog-gwrdd cynta'r rhithfro. Mae'r gwybodaeth ar eu blogiau nhw.

Syniad briliant! Yn anffodus allai ddim gyd-gwrdd รข nhw am fy mod i'n coleg yn aber, ond gyda nwdls wedi symud lan yma, a'r nifer o flogwyr arall sy'n y brifysgol ac yn yr ardal, dwi'n credu eu bod hi'n amser trefnu blog-gwrdd yn y dre ger y lli.

Os ydych chi'n bwriadu trefnu blog-gwrdd, danfonwch e-bost i mi er mwyn gallu eu hysbysebu ar rhithfro.com

3 sylw

Blogger Nwdls
Aye, fydd raid cael Blog-gwrdd yn Aber 'ma. Ma raid i fi gwrdd a Dogfael "in the flesh" fel petai! (a falle tynnu llun o'i fwyd o)

Ma 'na Gasyth, Rhys Llwyd, Joni, a sawl un arall yn y coleg.

Be am drio dyddiad...mewn pythefnos efallai? neu fewn mis? Ganol wythnos...yn rhywle sydd ddim yn rhy brysur ond ddim yn rhy farw chwaith...awgrymiadau?

Blogger Rhys Wynne
Mae'n debyg bod na fwy o flogwyr y Rhithfro yn Aber nag yn y brifddinas erbyn meddwl.

Anonymous Anonymous
Helo,

Fyddet ti'n fodlon i mi gynnwys Sbwriel*spot yn y Blogiadur?

Os felly, byddwn yn ddiolchgar pa bai modd i ti adael i mi wybod at aran[at]sgwarnog.com.

Diolch,

Aran

Adia sylw