Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

20 September 2006

£2.7M am gwefan?

12:31 0 sylw

Drwy hap a damwain dwi newydd ffeindio gwefan newydd y Cynulliad Cenedlaethol - oedd wedi'i lawnsio'n ôl ym mis Ebrill (ac di cael ei flogio amdani... yn Ebrill). Ar ôl chwilio ar y we, ffeindiais y cofnod yma oedd yn dweud ei fod yn costi £2.7 miliwn... WOW! They've been 'ad!

Ry'n ni'n gwybod fod adeiladu gwefannau ddim yn chêp, ond anodd meddwl beth allen nhw wario'r arian arno. Mae Russell, wnaeth ysgrifennu'r cofnod, hefyd yn nodi fod gwefannau fel hynny'n dechrau o £30,000.

Gan ei fod e'n rhoi plug am ei fusnes e, wna i 'fyd - ma Smotyn yn gwneud gwefannau llawer rhatach na £30,000 - bargan!

I adio at sylwadau Dafydd, dwi eisiau nodi fod y gwefan, i mi, yn ymddangos braidd yn anniben ac yn gallu bod yn anodd i'w ddefnyddio gyda llygoden (dim ots am hynny nawr... allweddau cyrchu!)

0 sylw

Adia sylw