Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

03 October 2006

Dwishe Macafal!

21:47 0 sylw

Dwi di bod yn defnyddio cyfrifiadur Windows ers blynydde (wel, ers 1994, gyda Windows 3.1), ac er i mi fynd yn frustrated gyda fe ormod o weithie i mi gofio, dwi'n lico fe (habit mwy na thebyg). Ers dros wythnos dwi di dechrau cwrs Dimensiwn 10, sy'n cael ei rhedeg gan Cyfle ym Mae Caerdydd, a dwi wedi bod ar cyfrifiadur Macafal.

On i'n sgeptig ar y dechrau, ond ar ol dod yn arfer gyda fe, dwi'n dod rownd. Mewn ffaith, ar ol defnyddio'r Macafal ar gyfer gwaith ar Photoshop ac Illustrator, dwi'n hwcd. Mor hwcd mewn ffaith, fy mod i'n dod yn ol gatre i'm PC ffyddlon ac yn dechrau anghofio'r shortcuts ar gyfer popeth - Command neu Control?

Trueni sdim arian da fi i brynnu un :-(

Son am Cyfle, dwi di *gorfod* dechrau blog saesneg (rhan o'r cwrs). Rhowch glec yma i'w ymweld.

0 sylw

Adia sylw