Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

22 September 2006

Flickr ar steroids...

15:14 0 sylw

...dyna be ma nhw'n galw Zooomr ta beth.Fersiwn gwahanol o Flickr yw e, sydd wedi bod ogwmpas am sbel fach. Ma'r features ychydig yn wahanol i Flickr, ac efallai dyw e ddim yn edrych cystal (ar hyn o bryd), ond ma cwpl o bethe dwi'n lico amdano fe:
  1. 50Mb y mis yw'r limit am cyfrifon syml (yn hytrach na 20Mb ar Flickr)
  2. Ma da nhw nodwedd lightbox a streamr i weld y lluniau
  3. GeoTags - Rhowch dot ar y map lle dynnoch y llun
  4. Hawdd rhoi llun ar eich blog (ma dewis o meintiau gwahanol a côd ar gael i copio a gludo)
Ar hyn o bryd does dim grwpiau, ond dwi'n siwr wneiff hwna newid. Ma nhw hefyd yn cynnig 2.5GB o le am ddim i flogwyr!!! (loads mwy na flickr)

Bae Caerdydd

Dyma'r llun cynta dwi wedi'i rhoi arni (diolch i Mei am flogio am rebekka am yr ysbrydoliaeth - dyw'n llun i o rhaeadr mwyaf Ewrop ddim cystal a'i llun hi, yw e?)

Dyw'r gwasanaeth ddim yn y Gymraeg, eto, ond dwi'n siwr y fyddai'n hawdd iddyn nhw ei adio yn y dyfodol.

Dwi am ddefnyddio zooomr, yn y ffydd y byddai'n gwella dros yr amser i ddod...

0 sylw

Adia sylw