18 October 2006
Last.fm + Cwch Banana
23:36 | 0 sylw
Dwi'n synnu fy mod i heb flogio am y gwasanaeth yma or blaen... wel, oni methu ffeindio'r un cofnod ar ol chwilio amdani.
Dwi di bod yn defnyddio last.fm ers blynydde bellach, man hyn a fan draw, yn achlysurol. Heddiw serch hynny, am ddim rheswm, penderfynais danysgrifo iddo am gyfnod prawf o fis er mwyn gweld yn union beth yw'r shizz amdano. £1.50 - Cerddoriaeth gwych o ansawdd da, o hyd a lled y byd - Gwych.
Dwi'n synnu hefyd braidd nad oes lawer o son ar maes-e na'r rhithfro amdano, mae'n llawer gwell na unrhyw wefan cerddoriaeth arall dwi wedi gweld... Mae'n cymysgu pandora a podlediadau, gyda elfen gwe 2.0 mewn rhyngwyneb deniadol.
Mae'r opsiwn gennyt o unai gwrando ar y cerddoriaeth ar y wefan eu hunan (drwy driciau flash a javascript), neu i lawrlwytho rhaglen deniadol (ar gyfer pob math o System Weithredu) i glywed.
Gwell fyth, mae last.fm (trwy amryw o blygins) yn gallu adnabod y cerddoriaeth wyt ti'n chwarae drwy rhaglenni fel iTunes, Winamp a Windows Media Player, yn ogystal'r rhaglen a'r wasanaeth eu hun, ac yn adeiladu proffeil ar dy hoff ganeuon. O hwna, allet wrando ar radios gwahanol sy'n siwtio dy dast cerddorol (dyma'n proffeil i - gewch wrando ar fy radio personol nawr gan fy mod i wedi tanysgrifo, os ydych yn aelod... ac eisiau).
Trwy Last.fm dwi di ffeindio band gwych o wlad pwyl. Dyw Banana Boat ddim yn beth alwch chi'n boblogaidd, allai ddim gweld pedwarawd barbaraidd (?) a-capella pwyleg yn boblogaidd, ond mae'r swn mae'n nhw'n neud yn anghredadwy! Mae'r llais bas yn wych. Gwrandewch!!
Ymddiheuriadau am yr ysgrifen anhrefnus - mae'n hwyrish a dwi di blino