20 September 2006
Angen ysbrydoliaeth am wyliau?
21:45 | 3 sylw
Cwmni gwyddelig sy'n chwilio am westai lle mae'n bosib bwco arlein.
Cwpl o bethau dwi'n lico am y wefan yma:
1. Y dylunio - mae'n syml ac yn dangos i chi awgrymiadau heb fod yn-eich-gwyneb. Mae'r lluniau yn rhoi dewis (ac yn ei wneud yn anoddach), a braf yw cael gwefan heb hysbysiadau mawr a special offers. Ar ôl chwilio am lle i aros, mae'n dangos gwestai mewn ffordd hawdd i'w ddeall, ac sy'n plesio'r llygaid.
2. Y Gwybodaeth - Ar ol dewis gwlad, mae tudalen llawn gwybodaeth am y wlad - gan gynnwys gwybodaeth technegol (map, prif ddinas, arian cyfredol, ieithoedd, poblogaeth ayyb), dolenni i lluniau o'r wlad, a rhestr o llefydd lle allech aros a'r dyddiadau hoffech aros yno.
3. Intigreiddio - gyda flickr a wicipedia yn bennaf, yn dod a lluniau a gwybodaeth am y wlad a'r dinasoedd i'r gwefan.
Neis. Yr unig beth gwael amdano fe yw'r rhestrau o lefydd y gallech aros, a'r ffaith y gall bod yn araf yn llwytho ar adegau.
A mae'r Deyrnas Unedig yn un wlad (er bod ei ystadegau am yr iaith Gymraeg yn sbodon).
3 sylw
Tom Parsons
Nest ti sylwi mai lleoedd yng Nghymru ar eu rhestr yn cael ei 'sgwennu fel: "Swansea, England" a "Cardiff, UK". Weird.
Aled
Dyna od ac anffodus - bach o anghysondeb yna. A dyw Belfast, Edinburgh a Glasgow ddim yna... mewn ffaith, sai'n gweld llefydd sydd yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon o gwbl!
Rhys Wynne
Mae na rai llefydd o Gogledd Iwerddon yna, ond eto o dan enw Lloegr! Dwi wedi cysylltu â nhw i bwyntio hyn allan ac i awgrymu defynyddio gogglemaps i chi allu cymharu lleoliad pob gwesty. Fle arall dwi'n licio'r ffrodd mae'r wefa yn edrych a'r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno - er dyw'r dewis o westai ddim yn wych yng Nghaerdydd (dim ond un?)