29 June 2005
Un (ffantastic) am yr haf
20:19 | 0 sylw
Gethon ni band-llydan 1MB yn ddiweddar, ac achos y cynydd yn y cyflymder, dwi rili wedi joio lawrlwytho ffilmiau bach... ac heddi ma fe di helpu fi dod i hyd i band newydd dwi'n lico.
On i'n darllen coolhunting heddi a weles i pwt bach am ok go. Beth nath wir denu fy sylw oedd y ffaith fod fideo ar gael i'w lawrlwytho ohonon nhw yn dawnsio i'w sengl "A million ways". Ma fe'n briliant yn fy marn i - syml ond eto'n amlwg yn lot o waith. Fanhyn i'w weld.
Mae'r sengl yn werth eu clywed hefyd - ac fel y dywedodd Josh Rubin, "A little bit indie, a little bit pop, the single has the makings of a summer anthem"... mae'n iawn.
Unrhywun di clywed amdanyn nhw?
16 June 2005
Retro DJ!!
12:21 | 1 sylw
Mae'r boi ma wedi adeiladu Desg Cymysgu eu hunain ar gyfer tapau cassette - Amazing! Dyw ei saesneg e ddim yn ffantastic ar eu wefan, ond ma hwna'n un peth dwlen ni cael fy nwylo arno, neu o leia cael instructions am sut i neud un dy hun!
12 June 2005
Cinio dydd Sul // Sunday dinner
14:44 | 0 sylw
09 June 2005
atgyfodiad....cyn hir...
01:12 | 0 sylw
Dyna yw'r gobaith, ond pwy a wyr... sain dda am gadw at fy ngair yn ddiweddar.