Sbwriel*spot

Ffrwd Atom Rhithfro.com

13 September 2004

Hello....ta ta!

01:13 2 sylw

Dw i ddim yn defnyddio Hello mwyach - poen yn y pen ol - dw in meddwl defnyddio flickr o nawr ymlaen....ond dyma'r eitem wreiddiol
Dwi wedi dechrau defnyddio hello - y rhaglen yna sy'n ala'r lluniau i'r we/ffrindiau - rhaid dweud odd e'n edrych yn ffantastic, ond mae'r rhyngwyneb yn anodd iawn defnyddio. Eniwe, o'n i'n meddwl y dylen ni arbrofi'r teclyn yma gyda llun, a'r llun yma yw un o'm lluniau i, wedi ei wneud ar ol clywed dogfen llynedd am Dylan Thomas yn marw 50 mlynedd yn ol.

Dyma'r llun (wedi diflasu ar ei weld e)

12 September 2004

Blogiau diddorol

18:12 0 sylw

11 September 2004

Ypdêt sgriptiau ayyb

21:13 0 sylw

Mae sgript y dyddiadau wedi'i ddiweddaru heddi, ac wedi cael gwared o'r problem odd nic wedi sôn am gyda'r 31af yn cael ei arddangos fel 1af.

Dwi hefyd wedi dechrau meddwl yn ddwys am sut i fynd o gwmpas sgriptio'r addasiad i'r rhithfro, felly gobeithio fydd rhywbeth lan rhywbryd.

'Se ni lico cael unrhyw adborth oddi wrth unrhywun am sgript y dyddiadau, fel i'w wella ayyb, felly, postiwch sylwad

gooarth

14:12 0 sylw

Dwi wedi shunio audioscobbler a last.fm i ddefnyddio yahoo. Ddim yn gret achos dwi'n hoffi defnyddio gwasanaethau gan fusnesau bach yn hytrach na rhai mawr cyfeledig, gan eu bod yn rhoi mwy o bwyslais ar y cwsmer. Serch hynny, achos yr arian sydd gyda yahoo i wario ar creu gwasanaeth radio fel launch, mae'n nhw'n gallu cael mwyo ganeuon a phwer i warae caneuon mwy poblogaidd. Mae'n nhw'n yn fwy tebygol o chwarae fy hoff artistiaid.... a gan fy mod yn stiwdant truenus o thlawd, pwy all rili fy meio?

rhaid mynd i wrando ar radiohead, ar ol i'r hysbyseb orffen :(

10 September 2004

Rolling Rolling Rolling....

13:34 1 sylw

BlogRolling - gwasanaeth sy'n cynnig yr un fath o beth a ma sgript jafa nic yn ei gynnig, on yn bersonol.

Mae e i weld yn gynnig da iawn, ond i gael unrhyw wasanaeth da mae'n rhaid talu - ac yn anffodus dyw'r rhyngwyneb ddim yn hawdd ei ddefnyddio (yn fy marn i).

ska-lets

13:26 0 sylw

Dwi'n mynd i weld yr Ospreys yn mynd i'r strade heno! Fi moin i'r ddau dim golli, gan fy mod i'n cefnogi Caerdydd!

Pam mynd? Just pissup a siawns i heclo'r ddau dim ( a ma'n ffrindie i'n cefnogi nhw, so heclo nhw 'fyd). Dwi'n mynd i weld Caerdydd yfory yn erbyn Dreigiau Gwent (dim newport yn agos!)

03 September 2004

moblog!

17:01 0 sylw

Dw wedi dechrau moblog @ moblog.co.uk: http://www.moblog.co.uk/blog/sbwriel

Does dim lot arno eto, yn anffodus, ond dyddie cynnar.

Dwi wedi trial ers tua mis i danfon lluniau i moblog dros y ffon, ond achos ffon newydd yw e, dwi wedi bod yn danfon yr email heb llun! (twp)

01 September 2004

Sgript jafa y dyddiadau - WEDI'I DDIWEDDARU AR YR 11/09/04

18:21 3 sylw

Reit, amser siarad am y sgript.
Mae'r sgript ar gael i bawb i'w ddefnyddio gan ei fod yn cael ei rhyddhau o dan drwydded creative commons. Mae angen newid patrymlun y blog ychydig a'r settings er mwyn ei ddefnyddio.

MAE'R SGRIPT WEDI'I NEWID I GAEL GWARED O RHAI BUGS (FEL NODWYD GAN NIC). DOES DIM PROBLEMAU NAWR (sa i'n credu)

1. Y Patrymlun

A: Yn gyntaf, mae'n rhaid rhoi'r sgript i mewn yn y patrymlun. Copïwch y côd yma i fewn i'r patrymlun o dan y </style> ac uwchben y </head>:

<script language="javascript" type="text/javascript">

<!--// CREUWYD GAN SBWRIEL. DEFNYDDIWCH O DAN DRWYDDED CREATIVE COMMONS - http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/

function dyddiadCymraeg(dString) {

var dyddArray = new Array("Sul","Llun","Mawrth","Mercher","Iau","Gwener","Sadwrn");
var ordArray = new Array("af","il","ydd","ydd","ed","ed","fed","fed","fed","fed","eg",

"fed","eg","eg","fed","eg","eg","fed","eg","fed","ain",
"ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain");
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Fawrth","Ebrill","Fai","Fehefin",

"Orffennaf","Awst","Fedi","Hydref","Dachwedd","Rhagfyr");
var dArray = dString.split(".");
var dydd = parseInt(dArray[0]);
var mis = parseInt(dArray[1]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[2]);
var d = new Date();
d.setDate(dydd);
document.write("Dydd " + dyddArray[d.getDay()] +", "+ dydd + "<sup>"+ ordArray[(dydd-1)] +"</sup> o "+ misArray[mis-1] +", "+ blwyddyn);
}

function archifCymraeg(dString) {
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Mawrth","Ebrill","Mai","Mehefin",

"Gorffennaf","Awst","Medi","Hydref","Tachwedd","Rhagfyr");
var dArray = dString.split(".");
var mis = parseInt(dArray[0]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[1]);
document.write(misArray[mis-1] +", "+ blwyddyn);
}
//-->
</script>


B: Ar ôl i chi wneud hynny, ffeindiwch y tag <$BlogDateHeaderDate$> a rhowch y canlynol yn ei le:

<script>dyddiadCymraeg('<$BlogDateHeaderDate$>');</script> <noscript><$BlogDateHeaderDate$></noscript>

C: Ffeindiwch yr ardal archifau, ac yna'r tag <$BlogArchiveName$> a rhowch y canlynol yn ei le:

<script>archifCymraeg('<$BlogArchiveName$>');</script> <noscript><$BlogArchiveName$></noscript>

2. Y Settings

Ewch i'r dashboard yn blogger, ac i settings eich blog. Yna cliciwch ar yr dolen formatting yn yr isfwydlen. Ar y dudalen yna fe welwch opsiynau am y dyddiad. Mae'n rhaid i chi ddewis yr opsiynnau canlynol:

1.9.04 am y dyddiadau;
09.04 fel enghraifft am yr archifau.

Safiwch, a bant a chi!

Newid y patrymlun yn barod

18:13 0 sylw

Ydw, dw i wedi newid y partrymlun i un fwy golau ar ôl 'mond ychydig ddyddiau. Pam? Na, nid i edrych yn debyg i poppeth. Gofynwch eich hunain y cwestiwn "Pam ydy hi'n haws gyrru yng ngolau dydd?", ac fe gewch chi'r ateb.

Dw i wedi gwneud man-newidiadau i'r sgript dyddiadau hefyd. Mae'n treiglo nawr!

Y frenhines yn torri'r gyfraith

18:11 0 sylw

Mae'r frenhines, wel, y royals yn torri'r deddf iaith. Yn ol y deddf mae rhaid i unrhywbeth fel gwefan sydd yn y public sector fod yn ddwyieithog, nag yfe? Dyw gwefan y frenhines ddim. Fi'n credu naf i anfon llythyr at bwy bynnag sy'n in charge a gofyn pam? O bosib ga i ateb sy'n dweud mai brenhines Lloegr yw hi, nid Cymru (getting ahead of myself, but can you imagine?)

Plaid Cymru yn rhoi'r gorau i .cw

18:09 0 sylw

Sa i'n gwbod faint o bobl oedd yn gwybod am hyn, yn sicr on i ddim am amser hir, fod plaid cymru wedi dechrau ymgyrch .cw, hynny yw, cael estyniad .cw ar ddiwedd enw parth.

Dyma'r syniad gorau dw i di clywed ers amser! Dw i'n gwbod am ymgyrch.cym, ac yn gwybod bod yna lot o gefnogaeth iddo, ond buasai Cymru byth yn cael yr estyniad. Mae'n 3 llythyren o hyd, a mae'r estyniadau yna (.com, .net, .org, .biz etc.) yn cael ei gadw i bawb.


Beth am .cy? neu .ws?
Mae .cy wedi'i gymryd gan cyprus, a ws gan western samoa. Braidd yn anheg fod cyprus yn mynd a .cy, gan taw cy yw ID ISO Cymraeg, ond ta beth.

Pam .cw?
Mae .cw yn ddwyieithog, sy'n gret, a gallen ni cael enwau parth fel www.w.cw/wcw/haha

Pam so ni'n cael un?
Yn ol yr Internet Assigned Numbers Authority (IANA) , yn syml, mae rhaid cael cod ISO sy'n dynodi ein bod yn cael ein cydnabod fel gwlad.

Gret! Pwy sy'n rhoi nhw mas?
Pwy bynnag sy'n rhedeg y wlad, fi'n credu.

Aaaaaaaaah! Gô-dam-it!
Na lle mae'r problem yn dod i fewn, nage fe. Mae'n rhaid i San Steffan cydnabod bod cymru yn wlad. Dyna'r snag.


Yn ffodus roedd Plaid Cymru yn cynnal ymgyrch .cw ar eu tudalen ymgyrchoedd, ond rhyw ffordd mae'r ymgyrch wedi diflannu. O'n i'n breuddwydio? Sa i'n credu.

DEWCH A'R YMGYRCH YN OL PLAID CYMRU!

Defnyddia google.com/intl/cy/, nid gwgl

14:00 3 sylw

Am f*cking cheek!

Dwi 'di bod yn meddwl hwna am amser hir nawr, a nawr fod gen i blog, dwi'n cael rantio (wehey!). Ond seriously, mae'r Cymraeg o'r diwedd yn cael cydnabyddiaeth gan gwmni mawr cyfeledig, a beth mae rhai o'r Cymry yn eu wneud? Gwneud gwefan newydd, cymreigio'r enw, a dweud wrth bawb i ddefnyddio hwna!

A beth sy'n waeth, ma pobl yn cwympo amdano fe! Pa blatform sydd gyda ni y Cymry i fynnu gwasanaethau Cymraeg oddi wrth cwmnïau mawr preifat (fel oren), lle'r peth cyntaf y gwnewn ni yw ripo'r gwasanaeth bant a'i "wella".

F*CKING GWARTH!